Ynglŷn â
Mae’r bwthyn yn cynnig:
Cegin gyda ffenestr tua’r cwm (golchi llestri yn y dull hen ffasiwn a golygfa uwchben y sinc!) a drws i’r ardd. Wedi ei gyfarparu’n dda, gydag oergell yn cynnwys rhewgell a phopty trydan gyda phentan nwy o ddur gloyw.
Cegin Fawr – prif ystafell y bwthyn yn cynnwys cadeiriau ffon Cymreig, setl a bwrdd mawr traddodiadol. Yr hen stôf goed enamel – wedi ei adnewyddu – ar yr aelwyd a mainc yn ei ymyl i chi ymlacio a chael cwtch.
Parlwr gyda stôf goed Morsø, soffa a chadair esmwyth. Clyd a pherffaith ar gyfer noson o ddarllen tawel neu sgwrsio hwyliog.
Ystafell ymolchi (ar y llawr isaf). Bath haearn, lle chwech a’r sinc gwreiddiol. Celfi cyfoes a chawod moethus (uwchben y bath).
Prif lofft yn cynnwys gwely dwbl cyfforddus â charthen Gymreig arno, a’r silff ben tân wreiddiol.
Ail lofft yn cynnwys gwely sengl â charthen Gymreig, a dwy silff hir a llydan yn y nenfwd.
Llofft plant yn cynnwys 2 ‘futon’ – lle gwych i chwarae mig (to isel).
Yr holl welyau o’r cwmni Cymreig ‘Alphabeds’ sy’n gwneud eu matresi o ddeunyddiau naturiol ac organig ac yn defnydddio coed o ffynonellau cynaliadwy. Y gwelyau mwyaf cyfforddus i ni ddod ar eu traws erioed!! Y ‘duvets’ o ddeunyddiau cyfangwbl naturiol a’r dillad gwely a’r tyweli o gotwm organig.
Yr ardd. Mae yna deras wal gerrig sychion yn y cefn sy’n lle i eistedd, cael pryd neu ymlacio. Mae yna randir blodau gwyllt sy’n sioe o liw drwy’r gwanwyn a’r haf. Pan fydd blodau yn yr ardd byddwn ni’n eu defnyddio i addurno’r tŷ ac mae croeso i chi ddefnyddio’r perlysiau i goginio ac i wneud te blas. Mae’r coed afalau o du isa’r teras yn gynnyrch impio â nifer o fathau hynafol o goeden afal ac fe gewch chi helpu’ch hun i’r ffrwyth.