Adfer 2 Penrhiw
Ym mis Medi 2007 fe brynodd Stirling y bwthyn gan y teulu a oedd wedi byw ynddo ers ymron i ganrif. Roedd Katy, Dewi, Ruth a Mair Jones yn awyddus i werthu’r tŷ i rywun a fyddai’n parchu naws y lle. Roedd Stirling a’i gymar Simon Whitehead yn ‘nabod Ieuan, gŵr Katy, fel un a ymwelai’n gyson â chartref ei blentyndod. Fel cymdogion mae Stirling a Simon wrth eu bodd yn cael y cyfle i adfer 2 Penrhiw a dod â bywyd iddo unwaith eto.
Mae llawer o bobl wedi bod ynglŷn â’r gwaith o adfer a ‘moderneiddio’ 2 Penrhiw. I weld lluniau Ben Stammers o’r bwthyn pan oedd o’n wag cyn dechrau’r gwaith, ewch i dudalen ‘Hanes 2 Penrhiw’.
Mae’r bwthyn wedi ei ail-weirio drwyddo a’i blymio o’r newydd (y cyfan oedd yma gynt oedd tap dŵr oer wrth sinc y gegin!) Lle nad oedd modd cadw’r hen blastar calch fe’i adnewyddiwyd, ac fe ddefnyddiwyd clai, paent mwynau a chalch naturiol ym mhob achos. Mae ein sylw i’r agwedd amgylcheddol a chynaladwyedd i’w weld yn ein dewis o wlan Cymreig i inswleiddio’r to, lle chwech ddarbodus ar ddŵr, y defnydd o goed a gafwyd yn lleol o ffynonellau cynaliadwy, a dwy stôf goed a boiler newydd effeithiol ar gyfer y gwresogi.
Dyluniwyd yr ardd gan Celine Janz fel prosiect blwyddyn gyntaf ei chwrs Peirianneg Amgylcheddol. Bu efo ni am wythnos ym mis Mawrth 2009 yn gwneud y gwaith sylfaenol ac yn dechrau ar y plannu. Y bwriad ydi creu gardd sy’n hawdd ei chynnal ac ar yr un pryd yn atyniadol i’w hymwelwyr, p’un ai ydi’r rheiny’n bobl, yn anifeiliaid neu’n drychfilod. Planwyd detholiad o berlysiau i’w defnyddio gan ymwelwyr ac mae’r tŷ wedi ei addurno â blodau tymhorol. Yn dilyn cynhaeaf helaeth ein hydref cyntaf mae coed afalau’r berllan, sy’n gynnyrch impio â nifer o wahanol fathau o goeden afal, wedi eu tocio’n sylweddol. Cyn hir bydd yna lwythi unwaith eto o afalau i ymwelwyr eu mwynhau yn ystod yr hydref. Mae yna luniau o’r gwaith ar yr ardd ac o flagur ein gwanwyn cyntaf ar www.2penrhiw.
Roedd rhan fwya’r gwaith adfer wedi ei gwblhau erbyn mis Mehefin 2008 ac ar gyfer y flwyddyn ganlynol fe fu Stirling a’i gyfaill Alanda Gunn-Wilson yn peintio, yn pwytho ac yn ychwanegu’r manion fanylion olaf i’r tŷ, a hynny mewn pryd i’r agoriad swyddogol ym mis Gorffennaf 2009. Fe fu i Simon wyngalchu tu blaen y bwthyn, gan ychwanegu at ei naws croesawus. Mae o’n deimlad braf cael rhannu’r bwthyn gyda phobl eraill sydd, drwy eu mwynhad o’r lle, yn dod â bywyd newydd iddo.
Mi fydd 2 Penrhiw ar gael drwy’r flwyddyn ar gyfer gwyliau a phreswyliadau artistiaid. Roedd y preswyliad cyntaf, un y Milford Swallows, yn hydref 2008 pan oedd gwaith adfer y bwthyn yn dal ar ei hanner. Am fwy o wybodaeth a lluniau ewch i wefan Ointment – www.ointment.org.uk.