Ychydig o hanes 2 Penrhiw
Ychydig o hanes 2 Penrhiw, gan Ruth Myfanwy Edwards.
Roedd 2 Penrhiw yn nwylo’r teulu am ymron i 100 mlynedd cyn ei brynu gan y perchnogion presennol. Ganwyd fy nhadcu Benjamin Thomas Jones yn Nhŷ’r Allt, heb fod ymhell o Bontseli, ar y 30ain o Orffennaf 1882 ond fe’i fagwyd yn Ffynnonau Bach, Abercych. Ganwyd fy mamgu, Leah Davies, ar y 29ain o Dachwedd 1884 a magwyd hi gan ei mam weddw yn Ffynnon Ddwysant ger Eglwys Pen-rhydd. Fe wnaed fy nhadcu’n denant y tŷ gan y Br Tom Bowen, Clunfyw, perchennog tir lleol, ar y 24ain o Fedi 1910 a symudodd Benjamin yno gyda’i fam ym mis Ionawr 1911.
Priodwyd Benjamin a Leah ar y 9fed o Chwefror 1911 ac ‘roedd y tri’n byw yn 2 Penrhiw. Fe lwyddon nhw i brynu’r tŷ oddi wrth Stad Clunfyw yn 1948. Roedd eu bywyd yn un syml. Roedd fy nhadcu, gŵr dros ei chwe troedfedd â gwallt cochlyd, yn deiliwr a oedd yn mynd bob dydd ar ei feic i Foncath, dringfa o oddeutu 3 milltir, i’r gweithdy a oedd yn ei gyflogi. Roedd hefyd yn gwneud peth gwaith gartref.
Bu mamgu’n gweithio ym Moncath hefyd, yn Swyddfa’r Post, ond wedi iddi briodi fe arhosodd yn Abercych a chynorthwyo yno yn y siop a Swyddfa’r Post. Deuai ffrwythau a llysiau’r teulu o’u gardd, a’u cig o’u moch. Byddent yn prynu dau fochyn i’w pesgi bob blwyddyn, un iddyn nhw eu hunain a’u cymdogion a’r llall i’w werthu i’r cigydd. Cadwyd y moch mewn twlc i fyny’r ffordd, y drws nesaf i 3 Penrhiw; y mae’r twlc bellach wedi mynd, yn anffodus. Mi fyddai’r pentrefwyr yn lladd eu moch ar adegau gwahanol er mwyn sicrhau bod yna bob amser digon o gig i bawb. Roedd rhaid byw yn gynnil, a byddai eu rhestr siopa wythnosol i’r groser yn cynnwys dim mwy na ryw bum eitem megis te, siwgr, reis (ar gyfer pwdin reis), caws, blawd a losin mintys.
Ganwyd pedwar o blant iddyn nhw. Fy nhad oedd yr olaf ohonyn nhw, a’r unig un na fu farw yn ei fabandod. Roedd y teulu’n Gristnogion selog, fy nhadcu’n ddiacon ac yn athro Ysgol Sul a’m mamgu’n glanhau’r capel, sef Bryn Seion, capel yr Annibynwyr, a oedd i’w weld ar draws y cwm o’r drws cefn.
Roedd Benjamin yn heddychwr, yn sosialydd yn ddirwestwr ac yn wrthwynebydd cydwybodol. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf roedd yn gynrychiolydd Sir Benfro’r ‘No-conscription Fellowship’ a bu’n rhaid iddo wynebu tribiwnlys ddwywaith. Roedd yn ymwneud â’r mudiad dirwest ac yn aelod o Urdd y Rechabiaid. Roedd yn ddarllenwr mawr, yn ddadleuwr brwd ac wrth ei fodd yn canu emynau – y fo oedd codwr canu’r capel.
Roedd fy mamgu’n wraig ddealus iawn gyda chof arbennig a fyddai wedi mynd llawer ymhellach nag y gwnaeth pe bai cyfleoedd heddiw ar gael iddi. Ychydig iawn o newid fu ar eu ffordd o fyw nac i’r tŷ nes iddyn nhw orfod symud i Aberystwyth atom ni yn 1972, wedi i’w hiechyd ddirywio. Pan fuon nhw farw, fe’u claddwyd ill dau ym mynwent eu hannwyl Fryn Seion.
Cadwyd y tŷ fel ag yr oedd o a bu’n nhad yn dwyn gryn gysur a mwynhad o dendio’r ardd yno ac o fod ynghanol pethau ei rieni. Pan fu farw fe ddechreuwyd pennod newydd yn hanes 2 Penrhiw gan drosglwyddiad y tŷ i berchnogion newydd. ‘Rydym ni fel teulu’n dymuno’r gorau a phob llwyddiant iddyn nhw yn eu menter newydd.