Preswyliadau Artistiaid yn 2 Penrhiw
Mae’r bwthyn yn lle delfrydol i awduron, cerddorion, dawnswyr a pherfformwyr sy’n chwilio am noddfa greadigol. I’r rhai sydd ag angen mwy o le i’w gweithgareddau mae neuadd y pentre o fewn dau ddrws i ni. Mae yno ofod mawr llawr pren a chyfleusterau coginio a thoiled modern. Mae o ar gael drwy’r flwyddyn, bron bob dydd yn ystod y dydd ac yn aml gyda’r hwyr hefyd. Mae’r pentref a’r ardal yn llawn ysbrydoliaeth i unrhyw un sydd am dreulio cyfnod ynghanol cwm amaethyddol Cymreig, ei gymdeithas wledig a’i ddiwylliant bywiog ac amrywiol. Mae o’n lle o goedwigoedd, nentydd, afonydd a rhaeadrau, ffermydd llaeth a thyddynod, tir âr a thir mynydd.
Mae Stirling a’i gymar Simon Whitehead yn cydweithio i gefnogi preswyliadau artistiaid yn 2 Penrhiw. Mae hefyd bwrdd ymgynghorol i helpu gyda syniadau, trefniadau, cyllido a’r darlun ehangach. Ar y bwrdd mae’r cerddor Ceri Rhys Matthews, y ddawnsreg Nikki Tomlinson (hefyd yn ymgynghorydd artistiaid yn Arts Admin, Llundain), cyfarwyddwr Theatr y Sherman Caerdydd Chris Ricketts (gynt yn gyfarwyddwr Celfyddydau Cymru Rhyngwladol) a Ceri Jones fu’n fwyaf diweddar yn cydgordio cyfraniad Cymru i Ŵyl Werin y Smithsonian yn Washington DC.